Mae plant yn fwy tebygol o fod yn diabetig os oedd eu mam yn bwyta llawer o glwten yn ystod ei beichiogrwydd.

Dyna awgrym astudiaeth newydd gan ymchwilwyr yn y Ffindir, a fu’n astudio dros 63,000 o fenywod beichiog yn Denmarc.  

Daeth yr ymchwilwyr o hyd i 247 achos o diabetes ymhlith plant y menywod yma, a dod i’r casgliad bod yna gysylltiad rhwng diabetes a glwten.  

Roedd plant y menywod a oedd yn bwyta glwten, yn wynebu dwywaith y risg o fod yn diabetig, o gymharu â phlant y menywod oedd yn bwyta llai.

Mae’r ymchwilwyr yn dweud bod angen rhagor o dystiolaeth, cyn bod menywod beichiog yn cael eu cynghori i beidio â bwyta glwten.