Mae pennaeth banc mwyaf Denmarc wedi camu o’r neilltu yn sgil ymchwiliad i’w dwyll ariannol honedig.

Mae’r ymchwiliad gan Danske Bank wedi dangos bod y rhan fwyaf o drafodion banc Thomas Borgen yn “amheus”.

Ymhlith y rhai sydd wedi ei gyhuddo o dwyll mae teulu arlywydd Rwsia, Vladimir Putin.

Mae’r ymchwiliad wedi dangos amgylchiadau amheus o gwmpas 200 biliwn Ewro (£177 biliwn) sydd wedi’i symud drwy gyfrifon yn Estonia.

Dywed Thomas Borgen ei fod yn “difaru” y sefyllfa, a’i fod am “wneud y peth iawn” trwy ymddiswyddo.

Er bod rhai trafodion amheus, mae’r banc wedi pwysleisio nad oes rheswm i gredu bod holl drafodion Thomas Borgen yn rhai amheus.

Mae’r ymchwiliad yn canolbwyntio ar 15,000 o gwsmeriaid, 9.5 miliwn o daliadau, 12,000 o ddogfennau ac 8 miliwn a mwy o e-byst.

Mae’r banc wedi talu 1.5bn kroner fel rhan o’r ymchwiliad am nad oes modd cadw cofnod manwl gywir o faint o arian sydd wedi mynd trwy gyfrifon drwy’r twyll.

Ymunodd Thomas Borgen â’r cwmni yn 1997, a chael ei benodi’n Brif Weithredwr yn 2013.