Mae un gweithiwr wedi’i ladd, ac 11 o weithwyr eraill wedi’u hanafu, wedi i sgaffaldiau o gwmpas gwesty moethus ym mhrifddinas Sbaen gwympo.

Fe ddigwyddodd y ddamwain o gwmpas chweched llawr y Ritz Hotel yng nghanol dinas Madrid toc wedi 4yp ddoe (dydd Mawrth, Medi 18) pan syrthiodd gwaith haearn trwm a thynnu’r sgaffaldiau yn ei sgil. Fe gafodd y gweithwyr eu llusgo i lawr i’r ddaear.

Fe ddaeth y rhan fwya’ o’r dynion allan o’r pentwr yn eu pwysau eu hunain a derbyn triniaeth am fân anafiadau. Fe gafodd dau arall eu cludo i ysbyty mewn cyflwr difrifol. Ond fe fu’n rhaid i ymladdwyr tân achub tri o’r dynion o’r rwbel, cyn tynnu corff y gweithiwr fu farw allan.

Mae’r Ritz Hotel, nepell o senedd Sbaen ac amgueddfeydd Prado a Thyssen-Bornemisza, wedi bod ar gau ers mis Mawrth, tra bod y lle’n cael ei adnewyddu.