Mae arweinydd Gogledd Corea, Kim Jong Un, wedi cytuno i ddymvhwel prif safle niwclear y wlad yn Nyongbyon – ond dim ond os yw’r Unol Daleithiau’n gwneud rhywbeth tebyg.

Dyna ddywedodd Arlywydd De Corea, Moon Jae-in yn dilyn trafodaethau yn Pyongyang wrth iddo geisio gwrthsefyll camau gan yr Unol Daleithiau, sydd am weld camau mwy difrifol yn cael eu cymryd gan Ogledd Corea i ddad-arfogi.

Mae Gogledd Corea hefyd yn bwriadu tynnu safle profi injanau taflegrau a phad lansio i lawr wrth i archwilwyr wylio.

Mae adroddiadau hefyd y gallai Gogledd a De Corea wneud cais ar y cyd i gynnal Gemau Olympaidd yr haf yn 2032.

Mae disgwyl i Kim Jong Un ymweld â De Corea yn ddiweddarach eleni.

Perthynas gadarn

Er nad yw datganiad Gogledd Corea yn mynd yn ddigon pell o safbwynt yr Unol Daleithiau, mae’r Arlywydd Donald Trump yn mynnu bod gan y ddwy wlad berthynas gadarn beth bynnag.

Ac mae’r ddau arweinydd wedi cytuno i gyfarfod unwaith eto yn dilyn yr uwchgynhadledd lwyddiannus yn Singapôr fis Mehefin.

Serch hynny, doedd dim sôn yn sylwadau Donald Trump am ddilyn esiampl Gogledd Corea a dad-arfogi.

Mae Gogledd Corea wedi bod yn galw am ddatganiad gan yr Unol Daleithiau yn dod â Rhyfel Corea i ben yn ffurfiol – rhyfel sy’n mynd ymlaen ers 1953.

“Rydym wedi cytuno i wneud Penrhyn Corea yn wlad heddwch sy’n rhydd rhag arfau a bygythiadau niwclear,” meddai Kim Jong Un.