Mae teiffŵn Mangkhut wedi gwanhau i fod yn storm drofannol erbyn hyn ar ôl achosi dinistr yn Tsieina ac Ynysoedd y Philipinau.

Mae o leia’ 69 o bobol wedi cael eu lladd o ganlyniad i’r storm, gyda degau yn dal i fod ar goll, meddai’r awdurdodau yn Tsieina ac Ynysoedd y Philipinau.

Bu’n rhaid i dros 2.4 miliwn o bobol ffoi o’u cartrefi yn Guangdong yn Tsieina dros y Sul.

Mae’r storm yn parhau i effeithio ar ardaloedd arfordirol yn ne Tsieina, ac mae disgwyl i daleithiau Guangdong, Guangzi a Hainan wynebu glaw a gwyntoedd cryfion trwy gydol y dydd heddiw (dydd Llun, Medi 17).

Fe gafodd gwasanaethau cyhoeddus eu gohirio yn Hong Kong yn ystod y teiffŵn, yn ogystal â gwasanaethau ym maes awyr y ddinas, sef un o feysydd awyr mwya’ prysur y byd.

Mae gwyddonwyr yn Hong Kong yn dweud mai Mangkhut yw’r teiffŵn mwya’ pwerus i daro’r ddinas ers 1979, gyda gwyntoedd yn cyrraedd cyflymdra o 121 milltir yr awr.