Mae pump o ymgeiswyr yn y ras erbyn hyn i fod yn Arlywydd nesaf Iwerddon, ar ôl i Sinn Fein gymeradwyo enwebiad Liadh Ni Riada.

Bydd yr etholiad yn cael ei gynnal fis nesaf, a bydd hi’n herio’r Arlywydd presennol Michael D Higgins, Sean Gallagher, Gavin Duffy a Joan Freeman.

Daeth cadarnhad fod Sinn Fein wedi enwebu’r ddynes 52 oed yn dilyn cyfarfod yn Nulyn heddiw (dydd Sul).

Liadh Ni Riada yw merch y cerddor a’r cyfansoddwr enwog Sean O Riada, ac mae hi’n gefnogwr brwd o’r Wyddeleg, gan fod yn flaenllaw yn y broses o sefydlu’r orsaf deledu Wyddeleg, TG4.

Mae hi’n un o bedwar Aelod Seneddol Ewropeaidd Sinn Fein ar ôl cael ei hethol yn 2014, ac yn gyn-gynhyrchydd teledu.

Hi yw’r ieuengaf o’r holl ymgeiswyr, ac yn un o ddwy ddynes yn y ras.

Mae hi’n gefnogwr brwd o’r diwydiant pysgota, ond yn feirniadol o’r Polisi Cyffredin Pysgodfeydd.

Y ras

Mae’r pump sydd wedi cyflwyno’u henwau i gyd wedi sicrhau cefnogaeth pedwar cynghorydd, yn ôl gofynion yr etholiad.

Mae Michael D Higgins yn sefyll am ail dymor, tra bydd yn cael ei herio gan ddau fuddsoddwr ar raglen Dragons’ Den, Sean Gallagher a Gavin Duffy. Mae’r ddau yn sefyll fel ymgeiswyr annibynnol ynghyd â’r Seneddwraig Joan Freeman.

Michael D Higgins sydd wedi sicrhau cefnogaeth pleidiau Fine Gael a Fianna Fail, dwy blaid fwya’r wlad, yn ogystal â’r Blaid Lafur.

Mae gan bob ymgeisydd tan 26 Medi i sicrhau cefnogaeth cynghorau. Bydd yr etholiad yn cael ei gynnal ar 26 Hydref.