Mae pryderon bod hyd at 40 o fwyngloddwyr aur yn sownd yn sgil y teiffŵn ar ynysoedd y Ffilipinas.

Fe achosodd y gwyntoedd cryfion dirlithriadau ar yr ynysoedd, wrth i nifer sylweddol o bobol foddi.

Mae bron i hanner miliwn o bobol wedi’u gorfodi o’u cartrefi mewn saith o ddinasoedd yn nhalaith Guangdong.

Yn ôl arbenigwyr, fe fydd Tsieina yn wynebu “prawf difrifol” wrth i’r gwyntoedd daro ar gyflymdra o 118 milltir yr awr.

Ymhlith y rhai fu farw yn y Ffilipinas roedd dau o blant, wrth i’w rhieni wrthod gadael eu cartref.

Mae nifer o bobol ar goll o hyd.