Mae cwmni preifat sy’n gobeithio anfon roced i’r lleuad wedi llwyddo i gael gafael ar berson i deithio ynddi.

Bydd cwmni SpaceX yn cyhoeddi amser yr hediad yn ogystal ag enw’r person fydd yn teithio ar y roced, ar dydd Llun (Medi 17).

Taith wythnos o hyd fydd hi, a’r roced yn hedfan o gwmpas y lleuad yn hytrach na glanio arni.

“Dyma gam pwysig tuag at alluogi pobol arferol i wireddu’u breuddwyd o deithio i’r gofod,” meddai SpaceX mewn neges ar Twitter.

Dydy’r roced ddim wedi cael ei hadeiladu eto, ac felly mae’n debygol y bydd yn rhaid aros rai blynyddoedd tan y lansiad.

Dydy’r un roced ddim wedi teithio i’r lleuad ers 1972.