Mae’r rheolwr pêl-droed o Gatalwnia, Pep Guardiola wedi wfftio’r posibilrwydd o reoli tîm cenedlaethol Sbaen ryw ddiwrnod.

Dywed y Catalanwr balch ei fod yn dymuno dod yn rheolwr ar dîm cenedlaethol ryw ddiwrnod, serch hynny.

Enillodd e 47 o gapiau dros Sbaen, gan arwain y tîm i’r fedal aur yng Ngemau Olympaidd Barcelona yn 1992.

Fel rheolwr, mae e wedi ennill 27 o dlysau yn ystod cyfnodau wrth y llyw yn Barcelona, Bayern Munich a Manchester City.

Mae ganddo fe gytundeb gyda Manchester City tan 2021.

‘Ddim yn mynd i ddigwydd’

Wrth gael ei holi am y posibilrwydd o ddod yn rheolwr ar dîm Sbaen yn y dyfodol, dywedodd Pep Guardiola, “Dw i ddim yn meddwl fod hynny’n mynd i ddigwydd.”

Dydy e ddim wedi cynnig rheswm, ond mae ei ddaliadau gwleidyddol yn hysbys ers tro.

Y tymor diwethaf, fe gafodd ei gosbi am wisgo rhuban yn datgan ei gefnogaeth i wleidyddion Catalwnia a gafodd eu carcharu am eu rhan yn y frwydr tros annibyniaeth.