Mae llanc yn ei arddegau wedi marw ac o leiaf 10 o bobol eraill wedi’u hanafu yn dilyn cyfres o ffrwydradau nwy mewn talaith yn yr Unol Daleithiau.

Mae’r sefyllfa yn Massachusetts wedi cael ei ddisgrifio fel “Armageddon”, wrth i o leia’ 39 o gartrefi mewn tair cymuned i’r gogledd o ddinas Boston gael eu difrodi gan dân. Credir mai nam ar bibell nwy sydd ar fai.

Dywedodd yr awdurdodau bod Leonel Rondon, 18, o Lawrence, wedi marw ar ol i’w gar gael ei daro gan rwbel o dy cyfagos a oedd wedi ffrwydro. Cafodd ei gludo i ysbyty yn Boston ond bu farw’n ddiweddarach.

Mae’r awdurdodau yn Massachusetts yn annog trigolion yng nghymunedau Lawrence, Andover a Gogledd Andover i adael eu cartrefi, ac mae tagfeydd traffig wedi achosi rhagor o anrhefn yno.

“Mae’n edrych fel Armageddon,” meddai pennaeth y gwasanaeth tân yn Andover, Michael Mansfield, wrth ddisgrifio’r tanau.

“Roedd yna fwg yn tasgu o Lawrence y tu ôl i mi, ac roeddwn i’n gallu gweld cymylau o fwg yn dod o’m blaen i yn nhre’ Andover.”

Mae llywodraethwr y dalaith, Charlie Baker, yn dweud bod yr awdurdodau wedi cychwyn ar ymchwiliad i achos y ffrwydradau.

Mae’r Asiantaeth Rheoli Argyfwng yn Massachusetts yn rhoi’r bai ar ormod o wasgedd yn y pibelli.