Fe fydd cystadleuaeth yr Eurovision yn cael ei chynnal yn Tel Aviv y flwyddyn nesa’, yn ôl y trefnwyr.

Roedd Llywodraeth Israel wedi gobeithio cynnal y gystadleuaeth yn Jerwsalem, ond fe wnaethon nhw roi’r gorau i’r cais hwnnw oherwydd ei fod yn rhy ddadleuol.

Roedden nhw’n ofni y byddai nifer yn ymatal rhag y gystadleuaeth, gan fod nifer o wledydd Ewropeaidd ddim yn cydnabod y ddinas fel prifddinas Israel.

Mae llefarydd ar ran Eurovision yn dweud eu bod wedi dewis Tel Aviv, prifddinas ddiwylliannol a masnachol Israel, oherwydd ei “chais apelgar a chreadigol”.

Fe enillodd Israel yr Eurovision yn gynharach yn y flwyddyn, gyda’r gân bop Toy gan Netta Barzilai.

Mae’r trefnwyr yn Tel Aviv yn dweud eu bod yn disgwyl tua 20,000 o ymwelwyr yn ystod y digwyddiad y flwyddyn nesa’.

Bydd rowndiau cynderfynol y gystadleuaeth yn cael ei chynnal yn y ddinas ar Fai 14 a 16, cyn y ffeinal fawr ar fai 18.