Corwynt Florence yn taro arfordir yr Unol Daleithiau

Diweddarwyd am  

Storm drofannol

Llun: Comin Wicimedia

Mae degau ar filoedd o gartrefi heb gyflenwad trydan ac ardaloedd dan ddŵr wrth i Gorwynt Florence daro arfordir dwyreiniol yr Unol Daleithiau bore ma ac mae’r rhagolygon yn awgrymu y bydd y storm yn gwaethygu.

Fe darodd y storm arfordir Carolina ddydd Iau ac fe allai barhau am rai dyddiau eto. Mae nifer o ardaloedd dan ddŵr oherwydd glaw trwm, gwyntoedd cryfion, a lefel uchel y môr.

Wrth i’r storm symud o’r arfordir at y tir roedd y gwynt wedi dechrau gostegu i tua 90mya erbyn nos Iau.

Ond mae Llywodraethwr y dalaith Roy Cooper wedi rhybuddio am “ddifrod sylweddol” ac wedi gwneud cais am gymorth ychwanegol.

Fe rybuddiodd pobl i beidio llaesu dwylo gan ddweud: “Mae’n storm bwerus sy’n gallu lladd.”

Mae mwy na 80,000 o gartrefi heb gyflenwad trydan ac mae 12,000 o bobl wedi symud i lochesi. Yn Virginia mae tua 400 o bobl  hefyd wedi ffoi o’u cartrefi.

Dywedodd swyddogion bod 1.7 miliwn o bobl yn y Carolinas a Virgina wedi cael rhybudd i adael eu cartrefi ond nid yw’n glir faint sydd wedi gwneud hynny.

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

1988-2018 Cylchgrawn Golwg yn 30 oed