Mae aelod o grŵp protest Rwsiaidd wedi cael ei gludo i’r ysbyty mewn cyflwr difrifol, yn ôl adroddiadau.

Mae Pyotr Verzilov, aelod o’r grwp perfformio Pussy Riot, wedi bod yn carl triniaeth ers dydd Mawrth (Medi 11) ac erbyn hyn mae wedi colli ei olwg a’r gallu i siarad.

Gan ei fod yn derbyn triniaeth mewn uned wenwyneg (toxicology), mae yna bryderon bod yr ymgyrchydd wedi cael ei dargedu’n fwriadol.

Carcharu

Cafodd Pyotr Verzilov ei arestio ym mis Gorffennaf am amharu ar gêm derfynol Cwpan y Byd 2018 ym Mosgow.

Rhedodd ar y maes, ynghyd â thri ymgyrchydd arall, gan brotestio yn erbyn ehangu pwerau’r heddlu yn Rwsia.

Treuliodd yr ymgyrchwyr 15 diwrnod dan glo.