Mae arweinydd al-Qaida wedi galw ar Fwslimiaid i fynd i ryfel yn erbyn yr Unol Daleithiau ledled y byd.

Mewn araith awr a hanner a gafodd ei rhyddhau neithiwr (nos Fawrth, Medi 11) union 17 mlynedd ers yr ymosodiad terfysgol ar dyrau Canolfan Fasnach y Byd yn Efrog Newydd, fe aeth Ayman al-Zawahri i gryn fanylder wrth bortreadu America yn elyn i Fwslimiaid ym mhob man.

Fe ddefnyddiodd benderfyniad Washington i symud ei llysgenhadaeth yn Israel o Tel Aviv i Jerwsalem, fel tystiolaeth o’r elyniaeth.

“America yw prif elyn Mwslimiaid,” meddai Ayman al-Zawahri, “er ei bod hi’n dweud ei bod hi’n seciwlar.”