Mae o leia’ 55 o bobol, gan gynnwys pedwar plentyn, wedi marw ar ôl i fws a oedd yn cario pererinion golli rheolaeth yn ne India.

Fe fu’r digwyddiad ar y ffordd sy’n arwain o’r deml Hindŵaidd poblogaidd, Anjaneya Swamy, yn nalaith Telangana, sydd tua 120 milltir o ddinas Hyderbad.

Fe gafodd o leia’ 33 o bobol eu hanafu wrth i’r bws, a oedd yn llawn dop, blymio i lawr llethr serth ddydd Mawrth (Medi 11).

Mae’r deml, sydd wedi’i chyflwyno i’r duw Hanuman, yn gyrchfan poblogaidd i bererinion ar ddydd Mawrth, gan fod y diwrnod hwnnw yn adeg ffafriol i weddïo iddo.

Bydd ymchwiliad yn cael ei gynnal er mwyn darganfod beth yn union oedd achos y ddamwain.