Mae darn o un o briffyrdd pwysicaf gogledd America wedi gorfod cau am y trydydd diwrnod wrth i dân sydd allan o reolaeth yn Califfornia ddal i dyfu.

Mae priffordd y Interstate 5 yn rhedeg yr holl ffordd rhwng Mecsico a Canada ar arfordir gorllewinol gogledd America, a dyma’r prif lwybr trafndiaeth i lorïau.

Mae 45 milltir ohoni wedi cau o gwmpas Coedwig Genedlaethol Shasta-Trinity yng ngogledd Califfornia, lle mae’r tân wedi troi’r bryniau o boptu iddi yn furiau o fflamau.

Erbyn nos Wener, roedd y tân wedi lledaenu i ardal o 38 milltir sgwâr, ac er nad oes trefi mawr gerllaw, mae rhai cannoedd o bobol wedi cael eu gorfodi i adael eu cartrefi.

Mae Califfornia wedi cael ei tharo gan un tân anferthol ar ôl y llall yr haf yma, gan gynnwys un a losgodd tua 1,100 o gartrefi a llall wyth o bobol y mis diwethaf.

Mae’r holl danau wedi bod yn draul mawr ar gyllideb diffodd tân y dalaith ac wedi arwain at hawliadau o bron i biliwn o ddoleri am ddifrod – a hynny cyn cychwyn tymor peryglus tanau’r hydref.