Mae disgwyl i arweinwyr Gogledd a De Corea gyfarfod yn hwyrach yn y mis er mwyn trafod y posibilrwydd o gael gwared ar arfau niwclear.

Bydd yr uwchgynhadledd rhwng Arlywydd y De, Moon Jae-in ac arweinydd y Gogledd, Kim Jong-un, yn cael ei gynnal yn Pyongyang rhwng Medi 18 a 20.

Yn ôl Chung Eui-yong, uchel swyddog i Arlywydd y De a aeth i gwrdd â Kim Jong-un yn Pyongyang ddoe (Medi 5), mae arweinydd y Gogledd yn cydnabod bod angen cael gwared ar arfau niwclear.

Mae hefyd yn awyddus i gadw’r berthynas dda rhyngddo ag Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, meddai Chung Eui-yong ymhellach.

Cymryd camau

Mae Gogledd Corea wedi cychwyn ar y broses o gael gwared ar ei harfau niwclear trwy dadgomisiynu rhai safleoedd arbrofi, ond mae’r Unol Daleithiau’n dweud nad yw’r camau hyn yn mynd digon pell.

Mae disgwyl i swyddogion o’r ddwy Gorea ddechrau paratoi ar gyfer yr uwchgynhadledd yr wythnos nesa’.

Dyma fydd y trydydd tro i ddau arweinydd y gwledydd gyfarfod ers mis Ebrill.