Mae canlyniadau triniaeth arbrofol yn awgrymu bod modd newid DNA (asid deocsiriboniwcleig) dynol mewn modd diogel.

Cafodd y driniaeth ‘golygu genynnau’ ei gynnal ar bobol sy’n dioddef o syndrom Hunter, sef cyflwr meddygol sy’n aml yn lladd pobol yn eu harddegau.

Ac o dderbyn dosys o’r driniaeth – triniaeth sy’n newid DNA dyn yn barhaol – mi ddangosodd rhai cleifion arwyddion eu bod yn gwella.

Yn ogystal, wnaeth ddim un claf ddangos symptomau negyddol yn sgil yr arbrawf.

Yn ôl arweinydd yr ymchwil Dr Joseph Muenzer, o Brifysgol Gogledd Carolina, does dim modd dweud â sicrwydd bod y driniaeth wedi gweithio ond mae’r canfyddiadau yn “galonogol dros ben”.