Mae tân enfawr wedi difrodi Amgueddfa Genedlaethol Brasil yn Rio de Janeiro.

Fe fu tua 80 o ddiffoddwyr tân yn brwydro am rai oriau i geisio achub rhai o drysorau’r amgueddfa, sydd dros 200 oed.

Roedd yr eitemau yn yr Amgueddfa Genedlaethol yn cynnwys trysorau o’r Aifft, celf Rufeinig, a rhai o’r ffosilau cyntaf gafodd eu darganfod ym Mrasil. Roedd tua 20,000 o eitemau i gyd yn ymwneud a hanes Brasil a gwledydd eraill.

Roedd yr amgueddfa ynghau i’r cyhoedd ar y pryd a does dim adroddiadau bod unrhyw un wedi’u hanafu.

Nid yw’n glir ar hyn o bryd beth achosodd y tân.

Dywedodd yr Arlywydd Michel Temer ei fod yn “ddiwrnod trist i holl bobol Brasil”.

“Mae 200 mlynedd o waith, ymchwil a gwybodaeth wedi cael ei golli,” ychwanegodd mewn datganiad.