Mae ymchwiliad ar y gweill ym Michigan yn dilyn honiadau bod heddlu arfog wedi rhoi efeilliaid 11 oed a llanc 17 oed mewn cyffion ar ôl pwyntio dryll atyn nhw.

Mae deunydd o’r digwyddiad ar Awst 26 wedi’i gyhoeddi gan Grand Rapids Press.

Cafodd y tri eu rhyddhau’n ddi-gyhuddiad yn ddiweddarach.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu fod y plismyn wedi dilyn y drefn gywir wrth ymateb i’r digwyddiad.

Ond mae mam yr efeilliaid yn honni bod yr heddlu wedi targedu ei phlant croenddu ar sail lliw eu croen.