Mae’r gantores Lana del Rey wedi canslo ei pherfformiad mewn gŵyl gerddorol yn Israel yn sgil yr anghydfod rhwng y wlad honno a Phalesteina.

Roedd disgwyl iddi berfformio yng ngŵyl Meteor yng ngogledd Israel yr wythnos nesaf.

Daw’r penderfyniad yn dilyn tipyn o bwysau gan ymgyrchwyr o Balesteina ac fe fydd yn ergyd i Israel, sy’n ceisio gwrthsefyll boicotiau ym maes y celfyddydau.

Dywedodd y gantores ar ei thudalen Twitter ei bod hi’n canslo’r perfformiad hyd nes bod modd iddi drefnu ei bod hi’n perfformio yn Israel a Phalesteina yn ystod yr un ymweliad.

Mae Israel wedi cyhuddo Palesteina o ddefnyddio’r celfyddydau i ladd ar y wladwriaeth Iddewig, ond mae Palestiniaid yn dadlau mai eu hunig nod yw codi ymwybyddiaeth o’u diwylliant.