Mae 26 o bobol wedi cael eu lladd a 75 wedi eu hanafu ym mhrifddinas Libya wrth i gwahanol grwpiau arfog wrthdaro.

Ac mae arbenigwyr yn rhybuddio y gallai’r ymladd gynyddu wrth i filitias o’r tu allan i’r brifddinas, Tripoli, ymladd yn erbyn y gangiau mawr sy’n rheoli yno.

Dyma’r cam diweddara’ yn yr anrhefn yn y wlad ers i luoedd y Gorllewin helpu i ddisodli’r unben Muhammar Gaddafi yn 2011.

Yn ôl gohebydd y gwasanaeth neywddion Al Jazeera, mae gangiau o dre’ or enw Tarhuna, tua 40 milltir o Tripoli, wedi bod yn ymladd yn erbyn dau o filitia mawr y brifddinas.

‘Meddiannu grym’

Y dehongliad ydi fod y grwpiau yn y brifddinas yn meddiannu grym ac yn elwa ar economi answyddogol y wlad gan gau’r drws ar grwpiau o rannau eraill o’r wlad.

Yn ystod y dyddiau diwetha’, meddai cyfryngau lleol, mae pobol yn Tarhuna wedi cyhuddo lluoedd Cyngor Arlywyddol Libya (y corff sy’n swyddogol yn llywodraethu yn y wlad) o fomio targedau yno – mae’r Cyngor wedi gwadu hynny.

Mae Libya wedi bod yn rhanedig ers ei ‘rhyddhau’ saith mlynedd yn ôl.