Mae esgyrn dynol a gafodd eu cymryd o Namibia rhyw ganrif yn ôl, wedi cael eu dychwelyd i’r wlad.

Cafodd y gweddillion eu cymryd gan luoedd Almaenaidd ar ddechrau’r ganrif ddiwetha’ pan oedd Namibia dan eu rheolaeth nhw.

Roedden nhw’n ganlyniad i wrthryfeloedd pan gafodd miloedd o bobol eu lladd rhwng 1904 ac 1908.

Roedd gwyddonwyr Almaenaidd wedi bwriadu cynnal profion arnyn nhw, ond mewn seremoni arbennig heddiw ym Merlin, fe gafodd y gweddillion eu rhoi i ddirprwyaeth o Namibia.

“Gobeithiwn wneud rhywbeth heddiw y dylem fod wedi ei wneud sawl blwyddyn yn ôl,” meddai’r Esgob Petra Bosse-Huber yn y seremoni. “Dychwelwn weddillion unigolion a fu farw yn ystod hil-laddiad cynta’r ugeinfed ganrif.”

  • Rhwng 1884 a 1919 roedd Namibia yn drefedigaeth Almaenaidd o’r enw ‘De-orllewin Affrica Almaenaidd’.