Mae lle i gredu mai gwraig 118 oed yn Bolivia yw’r person hynaf yn y byd bellach.

Yn ôl ei cherdyn adnabod, cafodd Julia Flores Colque ei geni 26 Hydref 1900, ac nid oes unrhyw gofnod swyddogol o neb hŷn na hi yn unlle.

Mae’n dal i ganu yn ei hiaith, Quechua, ac yn chwarae gitâr brodorol a elwir yn charango yn ei chartref yn nhref wledig Sacaba.

Yn ei hoes hi, mae wedi gweld dau ryfel byd, chwyldroadau yn Bolivia a’i thref enedigol yn cael ei thrawsnewid o fod â phoblogaeth o 3,000 i ddinas fawr o 175,000 o bobl.

Hyd yn ddiweddar, hen wraig o Japan a aned ar 4 Awst 1900 oedd person hynaf y byd. Bellach, a hithau wedi marw, yw gred yw mai Flores Colque biau’r anrhydedd.

Mae ei hirhoedledd yn anarferol iawn yn Bolivia, gan ei bod yn wlad ac iddi un o’r cyfraddau marwolaeth uchaf yn Ne America.