Mae arlywydd Ffrainc wedi galw am fwy o undod Ewropeaidd ym maes amddiffyn.

Mewn araith i lysgenhadon Ffrainc yn Paris, dywedodd Emmanuel Macron:

“All Ewrop ddim dibynnu ar yr Unol Daleithiau yn unig am ei ddiogelwch. Mae’n rhaid i ni wynebu ein cyfrifoldeb a gwarantu ein diogelwch, ac felly sofraniaeth Ewrop.”

Ers iddo gael ei ethol y llynedd, mae’r arlywydd 40 oed wedi bod yn galw am Undeb Ewropeaidd mwy unedig, gyda chyllideb amddiffyn a pholisi diogelwch Ewropeaidd ar y cyd.

Ers mis Tachwedd, mae 23 o 38 o wledydd yr Undeb Ewropeaidd wedi cytuno ar raglen o fuddsoddi milwrol a datblygu prosiectau ar y cyd.