Er bod y corwynt a oedd yn dynesu at Hawaii wedi cael ei israddio i storm drofannol, caiff y trigolion eu rhybuddio i fod ar eu gwyliadwriaeth am law trwm.
“Gall stormydd trofannol fod yn beryglus iawn, a daliwch i fod yn wyliadwrus,” oedd neges pennaeth y Asiantaeth Argyfwng Ffederal America i bobol y dalaith.
“Dyw’r glaw trwm ddim drosodd, a dyma fydd y bygythiad mwyaf a welwn dros y 48 awr nesaf.”
Roedd Corwynt Lane yn rhuo tuag at y gadwyn o ynysoedd yn y Môr Tawel yn gynharach yr wythnos yma fel corwynt categori 5 – sy’n golygu gwyntoedd o 157mya neu gyflymach.
Erbyn neithiwr fodd bynnag, roedd y corwynt wedi arafu a throi i’r gorllewin o Honolulu, prifddinas y dalaith.
Er hynny, mae gweddillion y corwynt wedi gollwng cymaint â 3 troedfedd o law mewn 48 awr ar ynys Hawaii ei hun, sy’n cael ei hadnabod fel yr Ynys Fawr.