Ar ddiwrnod cyntaf ei ymweliad ag Iwerddon, mae’r Pab Ffransis wedi cydnabod methiant awdurdodau’r eglwys i fynd i’r afael â’r troseddau difrifol a gafodd eu cyflawni gan offeiriaid yno.
Dywedodd fod gan bobol hawl i fod wedi eu cythruddo gan ymateb arweinwyr blaenllaw yn yr Eglwys Gatholig i’r “troseddau ffiaidd” a gafodd eu cyflawni yn erbyn plant a phobol ifanc.
“Wrth ystyried y bobol fwyaf bregus, alla’ i ddim ond cydnabod y camdriniaeth o bobol ifanc gan aelodau o’r eglwys a oedd â’r cyfrifoldeb dros eu diogelwch a’u haddysg,” meddai mewn araith yng nghastell Dulyn.
“Mae methiant yr awdurdodau eglwysig – yn esgobion, uwch glerigwyr, offeiriaid ac eraill – i fynd i’r afael yn ddigonol â’r troseddau ffiaidd hyn yn dal i achosi poen a chywilydd i’r gymuned Gatholig.”
Dywedodd hefyd fod arno eisiau cydnabod merched a oedd wedi dioddef “amgylchiadau neilltuol o anodd” yn y gorffennol.
Gogledd Iwerddon
Wrth droi at Ogledd Iwerddon, canmolodd y rheiny a weithiodd tuag at gytundeb Dydd Gwener y Groglith yn 1998.
“Gallwn ddiolch am y ddau ddegawd o heddwch a ddilynodd y cytundeb hanesyddol hwn, gan obeithio y bydd y broses heddwch yn goresgyn pob rhwystr sydd ar ôl,” meddai.
Fe wnaeth ei araith ar ôl cyfarfodydd preifat gyda’r Taoiseach Leo Varadkar a’r Arlywydd Michael D Higgins.
Daw ymweliad y Pab dri mis ar ôl i bobol Iwerddon bleidleisio drwy fwyafrif o 2 i 1 dros ddiddymu’r gwaharddiad ar erthylu.
Roedd y bleidlais yn tanlinellu’r graddau y mae Iwerddon wedi newid, a phwysau’r Eglwys Babyddol wedi gwanhau, ers ymweliad y Pab John Paul II â’r wlad yn 1982.
Ar ôl treulio’r diwrnod yn Nulyn heddiw, fe fydd y Pab Ffransis yn hedfan i Knock yn Swydd Mayo yn y gorllewin yfory cyn i’w ymweliad ddod i ben.