Mae’r Pab Francis wedi cyrraedd Iwerddon ar ymweliad deuddydd hanesyddol.
Glaniodd ei awyren o Rufain ym maes awyr Dulyn ychydig cyn hanner awr wedi deg.
Fe fydd yn treulio’r diwrnod yn Nulyn heddiw, cyn hedfan i Swydd Mayo yn y gorllewin yfory i gymryd rhan mewn gwasanaeth wrth seintwar yn Knock.
Mae’r Pab wedi cyrraedd gwlad sydd wedi gweddnewid yn llwyr ers ymweliad enwog John Paul II yn 1979, y Pab diwethaf i ymweld ag Iwerddon.
Bryd hynny, roedd yr Eglwys Babyddol yn rym holl-bresennol yn y wlad, a miloedd yn gorfoleddu wrth groesawu John Paul II i’w plith.
Er y bydd y Pab Ffransis yn cael croeso cynnes gan filoedd o Wyddelod, fe fydd yn profi dicter llawer o brotestwyr hefyd ynghylch y ffordd mae’r eglwys wedi ymdrin â throseddau clerigwyr yn erbyn plant dros y blynyddoedd.
Fe fydd yn cyfarfod rhai o’r dioddefwyr mewn cyfarfod preifat.
Fe fydd hefyd yn cyfarfod arlywydd y Taoiseach Iwerddon, Michael D Higgins a Leo Varadkar.
Mae disgwyl y bydd tua 100,000 ar strydoedd Dulyn y prynhawn yma, wrth iddo gael ei gludo yn ei gerbyd drwy’r ddinas, ac fe fydd yn ymuno â 80,000 o bererinion mewn gwyl gerddorol yn stadiwm Croke Park heno.