Mae plaid llywodraethu Awstralia wedi ethol y Trysorydd Scott Morrison yn brif weinidog – a fydd y chweched person i arwain y wlad mewn 11 mlynedd.

Ar ôl i’w gefnogwyr orfodi Malcom Turnbull i gynnal pleidlais am yr arweinyddiaeth, fe wnaeth Scott Morrison guro ei gystadleuydd Peter Dutton, cyn-weinidog Cabinet, o bleidlais o 45-40.

Doedd y prif weinidog presennol heb gymryd rhan yn y bleidlais a chadarnhaodd wedyn ei fod yn bwriadu gadael y byd gwleidyddol.

Pe bai’n ymddiswyddo, bydd rhaid galw isetholiad a gallai’r llywodraeth golli ei mwyafrif o un sedd.

Fe wnaeth Malcom Turnbull feirniadu cefnogwyr Scott Morrison am dranc ei arweinyddiaeth gan ddweud y byddai “llawer o bobol Awstralia yn methu credu’r hyn sydd wedi cael ei wneud.”

Dyma’r pedwerydd prif weinidog i gael ei ddisodli gan ei blaid ei hun cyn gwasanaethu am dair blynedd lawn ac mae llawer o bobol y wlad wedi cael digon.

Mae’r bleidlais ddiweddaraf wedi gwneud niwed i hygrededd y Blaid Ryddfrydol yn dilyn ymgyrch anniben ac weithiau’n hurt ar y ddwy ochr.