Mae Donald Trump wedi cyhuddo ei gyn gyfreithiwr, Michael Cohen, o ddweud celwydd dan bwysau o gael ei erlyn.

Mae Arlywydd America yn wynebu honiadau ei fod wedi defnyddio arian ei ymgyrch etholiadol i geisio talu dwy fenyw i gadw’n dawel am eu carwriaethau honedig gydag ef.

Fe wnaeth y biliwnydd drydar yn cyhuddo Michael Cohen o ddyfeisio “straeon er mwyn cael ‘dêl’ gyda’r erlynwyr.

Plediodd y cyfreithiwr yn euog dydd Mawrth i wyth achos, gan gynnwys torri rheolau ariannol ymgyrchoedd arlywyddol, y mae e’n honni oedd dan arweiniad Donald Trump.

Mewn sesiwn briffio, mynnodd ysgrifennydd y wasg y Tŷ Gwyn, Sarah Huckabee Sanders, o leiaf saith gwaith nad oedd yr Arlywydd wedi gwneud unrhyw beth o’i le.

Dywedodd Michael Cohen dydd Mawrth ei fod wedi gwneud taliadau cyfrinachol i ddistewi’r model Playboy, Karen McDougal, a’r actores bornograffig, Stormy Daniels, er mwyn dylanwadu ar yr etholiad yn 2016.

Dywedodd fod hyn wedi bod dan orchymyn Donald Trump ond mae e’n mynnu nad oedd yn gwybod am y taliadau.