Mae daeargryn nerthol wedi ysgwyd arfordir gogledd-ddwyrain Feneswela, De America, gan achosi dychryn i drigolion y brifddinas.

Roedd y cryniadau’n mesur  7.3 ar y raddfa, ac maen nhw wedi’u lleoli rhyw 76 milltir o dan wyneb y ddaear. Roedd canolbwynt y daeargryn tua 12 milltir allan i’r môr ger penrhyn Cariaco, lle sydd wedi diodde’ dinistr nifer o weithiau yn y gorffennol.

Mae tystion yn ninas Cumana, yr agosaf at y canolbwynt, yn dweud fod rhai pobol wedi cael eu hanafu mewn canolfan siopa pan gwympodd grisiau symudol, ond nad oedd arwydd fel arall o unrhyw ddifrod yn yr ardal.

Yn Caracas, prifddinas Feneswela, fe syrthiodd concrid oddi ar bloc o swyddfeydd anorffenedig ‘Twr Dafydd’.