Mae disgwyl i lywodraeth Sbaen roi caniatad yr wythnos hon i godi gweddillion cyn arweinydd y wlad. Francisco Franco.

Mae llywodraeth canol-chwith y wlad wedi gwneud y weithred o symud gweddillion y cyn-unben o’r mawsolewm yn Nyffryn y Meirw, 30 milltir i’r gorllewin o ddinas Madrid, yn un o’i phrif bolisïau.

Mae codi’r gweddillion yn debygol o ddenu tipyn o sylw yn rhyngwladol, ac mae’n cael ei weld fel cam mawr wrth i’r llywodraeth geisio profi ei bod am greu newid yn Sbaen a thorri cysylltiadau â’r gorffennol.

Mae disgwyl i’r caniatad gael ei roi dydd Gwener, er bod teulu a chefnogwyr y diweddar gadfridog wedi gwrthwynebu’r cynllun.

Mae’r llywodraeth yn credu, ar hyn o bryd, fod ganddi ddigon o gefnogaeth draws-bleidiol er mwyn pasio’r cynnig yn derfynol yn ystod mis Medi.

Fe fu Francisco Franco yn arwain Sbaen rhwng 1939 a’i farwolaeth yn y flwyddyn 1975.