Mae prif weinidog Awstralia wedi goroesi her i’w arweinyddiaeth, gan drechu gweinidog yn ei lywodraeth mewn etholiad mewnol.
Mae’r Gweinidog Cartref, Peter Dutton, wedi ymddiswyddo o gabinet Malcolm Turnbull yn dilyn y bleidlais – ond mae faint o gefnogaeth a gafodd wedi synnu nifer o sylwebwyr.
Fe gafodd y bleidlais ei galw gan Malcolm Turnbull yn ystod cyfarfod o aelodau’r Blaid Ryddfrydol geidwadol, a hynny wedi i rai gwestiynu faint o gefnogaeth sydd gan yr arweinydd o fewn y llywodraeth.
Fe enillodd Malcolm Turnbull y fôt o 48 i 35.
Dyma’r chweched tro o fewn 11 mlynedd iddo gael ei herio fel hyn.