Mae’r Taliban wedi tanio rocedi at balas arlywydd Afghanistan, wrth i’r arlywydd Ashraf Ghani draddodi ei neges ar drothwy gwyl Fwslimaidd Eid-al-Adha.
Mae heddlu lleol yn dweud fod y ffrwydiadau i’w clywed yn glir yn ystod araith y gwleidydd a gafodd ei darlledu’n fyw ar deledu heddiw (dydd Mawrth, Awst 21).
Fe oedodd yr arlywydd pan glywodd y swn, gan ddweud yn fyw ar yr awyr, “Os ydyn nhw’n meddwl fod roced yn mynd i gadw pobol Afghanistan i lawr, maen nhw’n camgymryd.”
Fe laniodd y roced gyntaf gerllaw’r palas arlywyddol, a’r ail ger canolfan NATO yn llysgenhadaeth yr Unol Daleithiau yn Kabul.
Chafodd neb ei anafu.