Mae Gwlad Groeg wedi cwblhau ei chynllun ariannol tair blynedd yn llwyddiannus ar ôl derbyn biliynau o ewros i helpu i fynd i’r afael a phroblemau gyda’r economi.

Mae’n golygu y bydd y wlad yn cael benthyg unwaith eto yn y marchnadoedd rhyngwladol.

Daw hyn ar ol i’r wlad weld twf yn yr economi, gostyngiad mewn diweithdra a hwb i’w chyllid a masnach wedi blynyddoedd o lymder.

Yn 2015 cafodd £55 biliwn o gymorth ariannol ei rhoi i Wlad Groeg i helpu’r economi a’r sector bancio. Roedd £21.6 biliwn ychwanegol hefyd ar gael o dan y cynllun ariannol ond nid oedd angen yr arian ychwanegol.

Ers 2010, mae Gwlad Groeg wedi derbyn £182 biliwn gan y Mecanwaith Sefydlogrwydd Ewropeaidd (ESM) sy’n cael cefnogaeth gan wledydd ym mharth yr ewro.

Dywedodd Mario Centeno, cadeirydd bwrdd llywodraethwyr ESM bod y rhaglen yn dod i ben gan fod Gwlad Groeg bellach “yn gallu sefyll ar ei thraed ei hun”.