Mae’r awdurdodau yn India wedi cludo dŵr yfed ar drenau i dalaith Kerala sydd wedi’i heffeithio’n ddifrifol yn sgil llifogydd.

Mae mwy na 350 o bobol wedi marw a 800,000 wedi gorfod ffoi o’u cartrefi yn ystod y llifogydd gwaethaf ers canrif.

Mae rhagolygon y tywydd yn dangos y bydd yn parhau i fwrw glaw yn y dalaith tan fore dydd Llun.

Yn ôl adroddiadau, mae o leiaf dau drên yn cludo 1.5 miliwn litr o ddŵr i Kerala.

Yn y cyfamser mae miloedd o weithwyr achub yn ceisio dod a nwyddau angenrheidiol i ardaloedd anghysbell.