Mae pedwar corff arall wedi’u tynnu o’r rwbel yn ninas Genoa, wedi i bont ddymchwel yno yn gynharach yr wythnos hon (dydd Mawrth, Awst 14).

Mae adroddiadau lleol yn dweud fod nifer y meirwon bellach yn 42, er nad ydi’r awdurdodau yn fodlon cadarnhau hynny.

Yn ôl asiantaeth newyddion Ansa, fe gafodd tri chorff eu tynnu o gar a gafodd ei wasgu gan flocyn concrid o dan Ponte Morandi – roedden nhw’n aelodau o’r un teulu, ac yn eu plith yr oedd merch naw mlwydd oed.

Mae radio lleol yn dweud mai corff dyn 30 oed ydi’r pedwerydd i gael ei ddarganfod.

Yn y cyfamser, wrth i angladdau gael eu cynnal ar gyfer y 28 o bobol eraill gafodd eu lladd, mae’r cyhoedd wedi bod yn troi tu min at yr awdurdodau wrth i swyddogion droi i fyny ar gyfer gwasanaethau. Maen nhw’n cael eu beio ar lawr gwlad am beidio â chynnal a chadw’r bont.

Ar y llaw arall, mae aelodau o lywdoraeth newydd yr Eidal wedi cael croeso gan dorfeydd.