Bu farw.Kofi Annan, cyn-Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig.
Roedd yn 80 oed ac yn gymeriad carismataidd a esgynnodd trwy rengoedd y corff i ddod y prif swyddog croenddu cyntaf.
Fe dreuliodd ei yrfa gyfan yn gweithio i’r Cenhedloedd Unedig, gan dreulio.dau gyfnod yn Ysgrifennydd Cyffredinol – rhwng Ionawr 1997 a Rhagfyr 2006.
Fe gafodd ei anrhydeddu â Gwobr Heddwch Nobel yn 2001.
Her fwyaf ei yrfa, yn.ddi-os, oedd ceisio.cael trefn ar y sefydliad ei hun, yn wyneb beirniadaeth a sïon am lygredd a ffraeo mewnol.