Mae miloedd o bobol yn sownd ac yn aros i gael eu hachub gan y gwasanaethau brys, wedi i law monswn didrugaredd achosi llifogydd mawr yn ne India.

Mae mwy na 170 wedi marw yn nhalaith Kerala mewn ychydig droa wythnos, wrth i’r ardal gyfan ddod dan ddwr.

Mae dros 300,000 o bobol wedi mynd am loches mewn 1,500 o wersylloedd gan y wladwriaeth, ond mae miloedd o bobol wedi bod yn ffonio’r cyfryngau yn gofyn am help.

Ers Awst 8, mae glaw trwm wedi achosi llifogydd a thirlithriadau, ac wedi dymchwel cartrefi a phontydd yn Kerala.

Mae’n dalaith sy’n enwog am ei golygfeydd trofannol.a’i thraethau.

Mae nifer o ffyrdd a rheilffyrdd wedi’u cau, ac mae maes awyr dinas Kochi hefyd ar gau.

Mae’r prif weinidog Narendra Modi wedi cyfarfod yr awdurdodau yn Kerala heddie, ac wedi addo dros $55m o gymorth.