Mae arlywydd Mali, Ibrahim Boubacar Keita wedi ennill tymor arall wedi etholiad lle y sicrhaodd ddwy ran o dair o’r bleidlais.

Fe gafodd arweinydd yr wrthblaid, Soumaila Cisse, 32% o’r fôt yn y pôl a gynhaliwyd ddydd Sul diwethaf (Awst 12). Roedd y tyrnowt yn 34% yn wyneb bygythiadau gan grwpiau eithafol.

Mae’r wlad wedi dod yn lle mwy a mwy ansicr ers i Ibrahim Boubacar Keita drechu Soumaila Cisse yn 2013.

Mae gwrthryfelwyr yn cynnal mwy o ymosodiadau, nes eu bod nhw bellach wedi cyrraedd canolbarth Mali, lle mae’r Wladwriaeth Islamaidd ac al-Qaida yn weithredol.