Mae degau o bobol wedi marw ar ôl i law trwm daro rhannau o dde’r India.

Mae’n debyg bod dros 40 o bobol wedi cael eu lladd yn ystod yr wythnos ddiwetha’, gyda thalaith Kerala yn gorfod delio â llifogydd mawr, tirlithriadau ac adeiladau a phontydd yn syrthio.

Mae’r maes awyr rhyngwladol yn ninas Kocki wedi gorfod rhwystro ei holl awyrennau rhag hedfan gan fod yna lifogydd ar hyd ei lanfeydd.

Mae miloedd o bobol wedi gorfod ffoi o’i cartrefi am loches, ond mae’r awdurdodau yn pryderu nad oes digon o gymorth ar gael iddyn nhw, gyda disgwyl am ragor o law trwm a gwyntoedd cryfion tan ddiwedd yr wythnos.

Mae cyfanswm o 44 o bobol wedi marw o ganlyniad i’r tywydd garw ers Awst 8.