Mae asiant sy’n gweithio i’r FBI wedi cael ei ddiswyddo ar ôl iddo feirniadu Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, mewn neges destun.

Roedd Peter Strzok yn arfer gweithio yn rhan o dîm yr cwnsler arbennig, Robert Mueller, a oedd yn gyfrifol am ymchwilio i honiadau o ymyrraeth gan Rwsia yn yr Etholiad Arlywyddol yn 2016.

Ond fe gafodd ei ddileu o’r tîm y llynedd ar ôl i’r neges destun a gafodd ei hanfon at ei gydweithiwr ddod i’r fei.

Ers hynny, bu’r FBI yn cynnal adolygiad o gyflogaeth Peter Strzok, cyn iddo gael ei ddiswyddo gan ddirprwy gyfarwyddwr yr FBI, David Bowdich.

Mae cyfreithiwr yr asiant, Aitan Goelman, wedi beirniadu’r weithred, gan ddweud bod ei gleient wedi cael ei ddiswyddo am resymau gwleidyddol.

Mae’n dweud y dylai hyn fod yn “destun pryder i Americanwyr”.