Fe fydd arweinwyr yr Almaen a Rwsia yn cyfarfod dros y penwythnos i drafod llu o faterion – gan gynnwys cynlluniau i osod pibellau nwy yn y Môr Baltig.

Mae’r Almaen eisoes yn derbyn nwy naturiol oddi wrth Rwsia trwy bibellau sy’n rhedeg dan y môr o Vyborg i Greifswald.

A bellach mae cynlluniau ar droed i gynyddu’r swm o nwy sy’n medru cael ei drosglwyddo – Nord Stream 2 yw enw’r prosiect hwnnw.

Mae’r Unol Daleithiau, ynghyd â sawl gwlad yn Nwyrain Ewrop, yn gwrthwynebu’r cynllun, a’n pryderu ei fod yn gwneud Ewrop yn fwy dibynnol ar Rwsia.

Ac mae rhai wedi beirniadu’r pibellau gan ddadlau eu bod yn cryfhau dylanwad y Kremlin ar Ddwyrain Ewrop – gallan nhw ddiffodd y nwy a’i ddefnyddio’r fel arf gwleidyddol.

Bydd Canghellor yr Almaen, Angela Merkel, ac Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin, yn cwrdd ar ddydd Sadwrn (Awst 18) ger Berlin.