Mae 260 o bobol wedi’u hanafu mewn gŵyl gerddorol yn Sbaen, ar ôl i blatfform pren gwympo i’r môr.

Yn ôl yr awdurdodau yn ninas Vigo, mae pump o’r rheiny wedi eu hanafu yn ddifrifol, ond dyw eu hanafiadau ddim yn peryglu eu bywydau.

Chwalodd y ffrâm bren ar nos Sul (Awst 12), sef noson olaf gŵyl ‘O Marisquiño’.

Yn ôl y gwasanaethau brys, fe agorodd hollt ynghanol y platfform a syrthiodd pobol i’r môr oddi tano. Mae rhai yn amau mai problemau strwythurol oedd ar fai.