Mae Prif Weinidog Israel, Benjamin Netanyahu wedi beirniadu presenoldeb baneri Palesteina mewn protest yn erbyn deddf newydd sy’n diffinio’r wlad yn wladwriaeth Iddewig.

Fe ddywedodd wrth Gabinet y wlad fod y baneri’n “dystiolaeth gadarn” fod protestwyr yn gwrthwynebu bodolaeth Israel, a bod angen deddfu.

Fe fu miloedd yn Tel Aviv ddydd Sadwrn i brotestio, a nifer fawr ohonyn nhw’n cludo baneri Palesteina. Dyma’r ail brotest fawr o fewn ychydig wythnosau.

Maen nhw’n dweud bod y ddeddf yn tanseilio democratiaeth Israel ac yn gwahaniaethu yn erbyn lleiafrifoedd nad ydyn nhw’n Iddewig. Arabiaid yw oddeutu 20% o drigolion y wlad.