Mae hawl ffermwyr yn nhalaith New South Wales i saethu cangarŵod wedi’i ymestyn yn dilyn cyfnod difrifol o sychder.

Dyma’r cyfnod mwyaf sych yn y dalaith ers 1965, ac fe fu’r anifeiliaid yn cystadlu â da byw am dir i’w bori.

Dywedodd llywodraeth New South Wales fod 100% o dir y dalaith – 309,000 milltir sgwâr – yn profi sychder ar hyn o bryd.

Maen nhw wedi cynyddu nifer y cangarŵod y gall ffermwyr eu saethu, ac wedi’i gwneud yn haws gwneud cais am drwydded i’w saethu.

Mae Prif Weinidog Awstralia, Malcolm Turnbull eisoes wedi cyhoeddi pecyn o fesurau i helpu ffermwyr mewn cyfnodau o sychder.