Mae miloedd o bobol yn parhau i fod heb gartrefi ar un o ynysoedd Indonesia yn dilyn daeargryn pwerus a darodd y wlad dros y penwythnos.

Fe gafodd rhannau helaeth o ogledd ynys Lombok eu heffeithio yn dilyn y daeargryn ar nos Sul (Awst 5), gan ddinistrio miloedd o adeiladau a lladd o leia’ 98 o bobol.

Mae’r ymdrech i achub pobol yn parhau, ond mae achubwyr yn dal i gael trafferthion i gyrraedd rhai ardaloedd o’r ynys.

Mae hynny oherwydd nifer o ffactorau, gyda rwbel ar y ffyrdd, pontydd wedi cwympo a diffyg offer ymhlith y pennaf.

Mae’r elusen Oxfam yn dweud bod mwy na 20,000 o bobol yn gorfod chwilio am loches dros dro, gyda miloedd mwy yn gwersylla yn yr awyr agored.

Achub

Ymhlith y datblygiadau diweddara’, mae swyddogion ar yr ynys wedi cadarnhau eu bod nhw wedi achub dyn a oedd yn sownd o dan rwbel mosg.

Dyw’r swyddogion ddim wedi cadarnhau faint o bobol sydd wedi’u claddu o dan yr adeilad, ond mae lle i gredu bod tua 50 o bobol yn gweddïo y tu fewn iddo pan syrthiodd yn ystod y daeargryn.

Fe gafodd dau berson eu cludo yn fyw o adeilad ar yr ynys ddoe hefyd, gan gynnwys tri chorff.