Bu farw’r cogydd enwog o Ffrainc, Joël Robuchon, yn 73 oed.

Roedd Joël Robuchon yn cael ei ystyried yn un o gogyddion enwocaf y byd, gyda nifer yn ei gofio am ei arloesedd a’i arbenigedd yn y gegin.

Cafodd ei enwi yn grefftwr gorau Ffrainc yn 1976, cyn cael ei goroni’n gogydd y ganrif yn 1990.

Ar un adeg yn ei yrfa, roedd ganddo 31 seren Michelin – y mwyaf yn y byd ar y pryd.

Fe gafodd marwolaeth y cogydd ei gadarnhau gan ei lefarydd, ac mae’r papur newydd, Le Figaro, yn adrodd ei fod wedi marw o ganser yn Genefa yn gynharach heddiw (dydd Llun, Awst 6).

“Artist”

“Mae disgrifio Joël Robuchon yn gogydd fel galw Pablo Picasso yn arlunydd, Luciano Pavarotti yn gantor a Frederic Chopin yn bianydd,” meddai awdur ar lyfrau coginio, Patricia Wells, mewn llyfr am Joel Robuchon yn 1991.

“Bydd Joël Robuchon, heb os, yn cael ei gofio fel yr artist mwya’ dylanwadol ym myd coginio yn yr 20fed ganrif.”