Mae dau bysgotwr yn eu 60au wedi cael eu lladd yn dilyn gwrthdrawiad rhwng eu cwch a chwch arall yn ninas Venice.

Roedd pedwar o bobol yn eu 20au ar fwrdd un o’r cychod, ac fe gawson nhw driniaeth am fan anafiadau neithiwr (nos Wener, Awst 3).

Mae erlynydd Venice yn ymchwilio i’r digwyddiad.

Yn ôl adroddiadau, cafodd profion alcohol eu cynnal gan yr heddlu yn dilyn y gwrthdrawiad.

Cafodd un o’r pysgotwyr ei gludo i’r ysbyty lle bu farw, a daethpwyd o hyd i gorff y llall fore Sadwrn.