Mae hofrennydd wedi taro’r ddaear yn Siberia, gan ladd pob un o’r 18 o bobol oedd yn teithio ynddi.

Dywedodd cwmni awyr UTair mewn datganiad fod adroddiad cychwynnol i’r digwyddiad yn nodi bod llafnau’r cerbyd wedi taro yn erbyn hofrennydd arall yn Vankor.

Roedd tri aelod o’r tîm yn yr hofrennydd, ynghyd â 15 o deithwyr eraill.

Mae lle i gredu bod yr holl deithwyr yn gweithio i chwaer-gwmni’r cwmni olew Rosneft.